Adsefydlu / Rehabilitation

Trosolwg o Adsefydlu

Mae gan Headway ei ddatganiad ei hun ynghylch adsefydlu ers y 1980au hwyr:

'Mae adsefydlu yn broses o newid y mae unigolyn sydd wedi dioddef anaf i'r ymennydd yn mynd trwyddi, gan geisio adennill sgiliau blaenorol ac addasu oherwydd y sgiliau a gollwyd. Ei nod yw cyflawni'r lefelau gorau posib o allu corfforol, gwybyddol a chymdeithasol bob amser, ac yna bod yn rhan o'r amgylchedd mwyaf priodol.'

Mae'r cynnydd gweladwy mwyaf yn digwydd yn ystod y 6 mis cyntaf, gyda'r gwella yn aml yn gynilach ac yn llai amlwg wedi hynny. Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio nad yw'r cynnydd yn dod i ben ar ôl 2 flynedd, fel yr awgrymwyd yn y gorffennol. Yn hytrach, mae pobl yn parhau i wella hyd yn oed 5, 10 neu fwy o flynyddoedd ar ôl cael anaf i'r pen.

Mae dau gam i adsefydlu. Y cam cyntaf yw'r ymyrraeth ffurfiol ar gyfer gwella'r unigolyn, a'r ail gam yw'r adeg y mae'r teulu a gofalwyr yn gweithio i gynnal y gwelliant hwnnw. Mae ymchwil yn awgrymu mai'r cleifion sy'n gwella orau yw'r rhai hynny y mae eu teulu yn rhoi cymorth ymarferol iddynt, ac sy'n gallu cynnal yr adsefydlu anffurfiol hwn gartref.


Pwy yw pwy yn y tîm adsefydlu?

Oherwydd bod effeithiau anaf i'r ymennydd yn gallu bod yn amrywiol, efallai y bydd nifer o wahanol arbenigwyr yn ymwneud ag adsefydlu unigolyn. 'Tîm amlddisgyblaethol' yw'r enw a roddir ar hyn, ac mae'n sicrhau y rhoddir sylw priodol i bopeth a achoswyd gan yr anaf.

Disgrifir rhai o'r arbenigwyr mwyaf cyffredin isod:

Nyrsys

Mae nyrsys wedi cael hyfforddiant ar bob agwedd ar ofal iechyd cyffredinol, a byddant yn helpu gyda gwisgo, ymolchi, bwydo a mynd i'r tŷ bach. Bydd ward yn cael ei rhedeg gan brif nyrs, ynghyd â nyrs staff a chynorthwywyr nyrsio.

Meddygon

Bydd ymgynghorydd yn cyd-drefnu'r gofal meddygol o ddydd i ddydd, gan gynnal archwiliadau a rhagnodi meddyginiaeth tra bo'r claf yn yr ysbyty. Mae'r ymgynghorydd yn bennaeth ar dîm meddygol, ac fe'i cynorthwyir gan is-staff meddygol, megis cofrestryddion a meddygon tŷ, a fydd yn treulio mwy o amser ar y ward na'r ymgynghorydd.

Ffisiotherapyddion

Nod y ffisiotherapydd yw helpu cleifion i adennill y gallu i ddefnyddio eu cyhyrau a'u cymalau er mwyn iddynt allu eistedd neu sefyll heb golli cydbwysedd, ynghyd â chydsymud, cerdded a defnyddio symudiadau llaw manwl. Bydd y ffisiotherapydd yn gosod ymarferion a gweithgareddau ar gyfer gwella gallu corfforol, yn ogystal â helpu gyda thechnegau dysgu ar gyfer codi a symud o gadair olwyn.

Therapyddion Galwedigaethol

Gwaith y therapydd galwedigaethol yw helpu i gynyddu annibyniaeth ar gyfer cyflawni gorchwylion dyddiol, megis gwisgo, coginio a gwaith tŷ. Byddant hefyd yn helpu'r unigolyn i ddatblygu sgiliau sy'n sail i'r gweithgareddau hyn, megis cyllidebu, cynllunio, gwella meddwl, a dod o hyd i ffyrdd o ddatrys problemau. Efallai y byddant hefyd yn darparu offer ac addasiadau arbenigol yn y cartref.

Seicolegydd Clinigol

Bydd y seicolegydd clinigol yn helpu i asesu sgiliau a gwendidau meddyliol y claf, megis cofio a chanolbwyntio (problem wybyddol), gan ddefnyddio profion a luniwyd yn benodol i'r diben hwn. Efallai y byddant hefyd yn rhoi cyngor ar reoli, adsefydlu a rhaglenni ailhyfforddi gwybyddol, yn yr ysbyty ac yn y gymuned, ynghyd â darparu gwasanaeth cynghori, a rhoi cyngor ar ymdrin â'r problemau emosiynol sy'n rhan o addasu ac ymdopi.

Gweithiwr Cymdeithasol

Mae gan weithwyr cymdeithasol y sgiliau i helpu teuluoedd i gael y cymorth ymarferol sydd ei angen arnynt. Gallant ddarparu gwybodaeth am fudd-daliadau, llety a chludiant. Mae'r gweithiwr cymdeithasol hefyd yn gynghorwr profiadol, ac mae ar gael i siarad am emosiynau a theimladau. Os na fu cysylltiad â gweithiwr cymdeithasol yn yr ysbyty, gofynnwch am apwyntiad i gael gweld un.

Therapydd Lleferydd ac Iaith

Nod therapyddion lleferydd ac iaith yw helpu cleifion i gyfathrebu'n fwy effeithiol, gan ddefnyddio'r iaith lafar a'r iaith ysgrifenedig. Efallai y byddant yn darparu ymarferion a gweithgareddau strwythuredig sydd â'r nod o wella sgiliau lleferydd ac iaith, neu o bosib, byddant yn gweithio gydag aelodau staff eraill a pherthnasau i wella cyfathrebu yn gyffredinol. Bydd gan y therapydd lleferydd hefyd brofiad o ddefnyddio cymhorthion cyfathrebu.


Canolfannau Adsefydlu

Mae cyfeirlyfr o wasanaethau adsefydlu ar gael ar y Rhyngrwyd yn www.ukabif.org.uk/directory. Cysylltwch â llinell gymorth Headway os hoffech gael cymorth i ddod o hyd i fanylion canolfannau lleol, addas.

See Also