You are here

Amnesia Wedi Trawma (PTA) / Post Traumatic Amnesia

Y diffiniad o Amnesia Wedi Trawma (PTA) yw'r "Anallu i gofio digwyddiadau parhaus, ar ôl cael ergyd i'r pen sy'n achosi newid mewn ymwybyddiaeth, hyd yn oed pan fo'r claf yn ymddangos yn effro."

Beth ydyw?

Yr amser ar ôl cyfnod o anymwybyddiaeth yw PTA, pan ymddengys fod yr unigolyn sydd wedi'i anafu yn ymwybodol neu'n effro, ond ei fod yn ymddwyn neu'n siarad mewn ffordd ryfedd neu annodweddiadol. Nid oes gan yr unigolyn gof parhaus o ddigwyddiadau o ddydd i ddydd, a gallai digwyddiadau diweddar iawn gael eu heffeithio yn ogystal, fel nad yw'n gallu cofio'r hyn a ddigwyddodd ychydig oriau neu hyd yn oed ychydig funudau yn ôl.

I gymhlethu'r mater, gall PTA weithiau ddigwydd heb i'r unigolyn fod yn anymwybodol cyn hynny.

Beth yw'r symptomau?

Y symptom mwyaf amlwg yw colli'r cof yn y presennol. Efallai y bydd yr unigolyn yn adnabod ei deulu a'i ffrindiau ond ni all brosesu'r ffaith ei fod yn yr ysbyty neu ei fod wedi cael rhyw fath o anaf. Efallai y bydd yn siarad ac yn ymddwyn fel ei fod yn y gwaith, neu angen mynd i gyfarfod, neu ei fod ar ei wyliau. Efallai y bydd wedi drysu neu gynhyrfu'n fawr, yn ofidus neu'n bryderus iawn, neu hyd yn oed yn mynegi ei hun fel petai'n cael ei ddal yn garcharor ac yn gorfod dianc. Gallai ymddygiad annodweddiadol gynnwys trais neu ymddygiad ymosodol, yn gorfforol ac ar lafar - rhegi, gweiddi, diluddiannu (e.e. diosg ei ddillad neu fastyrbio, gwneud sylwadau cas am bobl eraill, ayb.). Mewn rhai achosion, nid yw'r unigolyn yn adnabod unrhyw un, ond bydd yn gofyn am berthnasau neu ffrindiau nad yw wedi eu gweld ers blynyddoedd, neu efallai y bydd yn credu ei fod yn blentyn neu'n unigolyn ifancach o lawer ei hun.

Gallai'r unigolyn fod â'r duedd i grwydro os yw'n gallu gwneud hynny'n gorfforol, neu efallai y bydd yn ceisio codi o'r gwely hyd yn oed os yw aelodau ei gorff wedi torri, neu os bydd ganddo anafiadau eraill. Gallai'r risg o gael codymau neu achosi mwy o anafiadau i'w hun trwy dynnu cathetrau neu ddiferwyr mewnwythiennol hefyd fod yn broblem ar yr adeg hon.

Ar y llaw arall, gallai'r person sydd wedi ei anafu hefyd fod yn dawel iawn, yn hawdd ei drin, yn dra chariadus a chyfeillgar gyda phawb, ac yn ymlynol neu fel plentyn, ac er nad yw ei ymddygiad yn fygythiol nac yn ymddangos fel problem sydd angen ei rheoli, gallai'r ymddygiad diluddiannu hwn fod yn llawn mor amhriodol.

Beth y gellir ei wneud ynglŷn â hyn?

Mae PTA yn gam gwella y mae'r unigolyn yn mynd trwyddo ar ôl cael yr anaf, ac er bod hyn yn ofidus iawn i'w deulu a'i ffrindiau, ac y gallai fod yn broblem sydd angen ei rheoli i staff ysbyty, mae'n bwysig cofio mai cyfnod dros dro yw hwn. Efallai y bydd asesiad gan niwrolegydd neu niwroseicolegydd yn cadarnhau mai Amnesia Wedi Trawma ydyw, ond weithiau bydd y gwasanaethau seiciatrig yn ymwneud â'r mater, sy'n achosi mwy o bryder i'r teulu.

Ceisiwch aros mor ddigyffro â phosibl, oherwydd gallai gweld pobl eraill mewn trallod, a heb fod yn gallu deall y rheswm am hynny, ychwanegu at y dryswch a'r cynnwrf y mae'r unigolyn yn ei deimlo. Mae'r ymennydd yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r anaf, ac mae'n well osgoi gormod o gyffro.

Dylid lleihau'r risg o niwed. Efallai y bydd hyn yn golygu cael rhywun i eistedd gyda'r unigolyn trwy'r amser, yn enwedig os yw'n debygol o grwydro neu geisio dod allan o'r gwely. Yn ystod y dydd, gallai rota o wynebau cyfarwydd fod o fudd, efallai gyda nyrs benodedig yn bresennol yn ystod y nos. Trafodwch y sefyllfa gyda staff yr ysbyty.

Efallai y bydd yr unigolyn yn gofyn yr un pethau drosodd a thro, a gall hyn fod yn flinderus iawn. Gallai'r unigolyn ddyfalbarhau â rhithdyb, ond mae'n well peidio â'i gywiro na cheisio ei orfodi i gofio. Ni fydd hyn ond yn cynhyrfu pawb yn fwy. Yn raddol, bydd yr unigolyn yn gallu cofio mwy o wybodaeth a dechrau gwneud synnwyr o'r byd sydd o'i gwmpas.

Cofiwch nad yw'r unigolyn yn gallu rheoli ei weithrediadau ac na ellir ei ddal yn gyfrifol am yr hyn y mae'n ei wneud na'i ddweud. Efallai ei bod yn rhywfaint o gysur i'r teulu sylweddoli ei bod yn debygol na fydd yr unigolyn a anafwyd yn cofio llawer am yr amser hwn, neu ei fod yn credu iddo gael hunllef.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael amser i ymlacio neu'n rhannu'r ymweliadau/goruchwylio ag eraill. Mae bod yn orflinedig yn ychwanegu at emosiynau sydd eisoes dan bwysau ac mae'n hanfodol bwysig eich bod yn gofalu amdanoch eich hun.

Pa mor hir y bydd yn parhau?

Gallai PTA barhau am ychydig funudau, oriau, dyddiau, wythnosau neu hyd yn oed fisoedd.

Mae hyd PTA yn arwydd eithaf da o ddifrifoldeb yr anaf i'r pen a'i effeithiau tymor hir tebygol.

Cyfnod y PTADifrifoldeb yr anaf
Hyd at 1 awrAnaf ysgafn iawn, llwyr adferiad, ond efallai y bydd rhai yn cael symptomau ôl-gyfergyd.
1-24 awrAnaf cymedrol, adferiad yn debygol o fod fel yr uchod
1-7 diwrnodAnaf difrifol. Cyfnod adfer yn hwy; gallai gymryd wythnosau neu fisoedd. Efallai y bydd yn gallu dychwelyd i'r un swydd ond bydd yn llai galluog nag o'r blaen.
1-2 wythnosAnaf difrifol iawn. Gallai adferiad gymryd misoedd lawer, ac mae problemau gwybyddol hirdymor yn debygol. Dylai allu gweithio a mwynhau bywyd cymdeithasol/teuluol.
2-12 wythnosAnaf difrifol iawn. Adferiad hirfaith - blwyddyn neu hwy. Diffygion parhaol yn debygol. Annhebygol iawn o fod yn gallu gwneud yr un gwaith ag o'r blaen.
12 wythnos +Anaf difrifol iawn. Anableddau sylweddol sy'n gofyn am ailhyfforddi a rheoli hirdymor. Annhebygol o allu gweithio byth eto, ond efallai yn gallu ymdopi â lleoliad tebyg i weithdy gwarchodol.

Yn gyffredinol, dywedir nad yw unigolyn yn debygol o ddychwelyd i'r gwaith byth eto os nad yw wedi gwneud hynny o fewn dwy flynedd wedi'r anaf. Ar wahân i'r problemau gwybyddol, mae'r unigolyn yn fwy tebygol o fod wedi cael anafiadau corfforol mwy difrifol a allai hefyd achosi problemau parhaol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cafwyd y wybodaeth hon o 'Head Injury - a practical guide' gan Trevor Powell, yn ogystal ag o rai o lyfrynnau Headway ei hun. Pe hoffech drafod unrhyw un o'r materion a nodwyd yma, neu unrhyw agweddau eraill ar anaf i'r ymennydd, cysylltwch â'n llinell gymorth gyfrinachol yn rhad ac am ddim.

See Also