You are here

Anaf i'r Ymennydd ac Epilepsi / Coping with Epilepsy

Mae epilepsi yn digwydd i oddeutu 5% o bobl sydd ag anaf i'r ymennydd, sydd tua deg gwaith yn fwy cyffredin nag yn y boblogaeth yn gyffredinol. Mae trawiadau epileptig, neu 'ffitiau', yn fwy cyffredin yn ystod yr wythnos gyntaf yn dilyn anaf i'r ymennydd, ac maent yn tueddu i fynd yn llai cyffredin ar ôl hyn.

Beth yw trawiad epileptig?

Newid sydyn mewn symudiad, ymddygiad neu ganfyddiad a achosir gan weithgaredd trydanol afreolus yn yr ymennydd yw trawiad epileptig.

Yn ystod trawiad, mae'r nerfgelloedd yn yr ymennydd yn mynd yn orfywiog ac yn tanio ar hap ac mewn modd afreolus. Mae hyn yn amharu ar gelloedd cyfagos yn aml, gan eu gwneud hwy yn orfywiog hefyd a chychwyn rhyw fath o 'adwaith cadwynol', fel y drysir rhan o'r ymennydd neu'r ymennydd cyfan dros dro.

Weithiau, gall y gorfywiogrwydd hwn ddigwydd heb unrhyw dystiolaeth allanol amlwg, ond yn aml, mae'r unigolyn yn dangos arwyddion a symptomau megis newid yn yr ymwybyddiaeth neu golli ymwybyddiaeth, ysgwyd neu ddirdynnu, brathu'r tafod, ayb.

Mathau o drawiadau epileptig

Trawiadau tonig-clonig cyffredinol: Cyfeirir at y rhain weithiau fel trawiadau 'grand mal'. Fe'u nodweddir gan golli ymwybyddiaeth yn sydyn a syrthio, ac yna gan anystwythder (y cam tonig) ac ysgytwadau rhythmig drwy'r corff i gyd (y cam clonig). Efallai y bydd yr unigolyn yn brathu ei dafod neu ei wefusau, neu'n gwlychu neu'n baeddu ei hun. Yn dilyn hyn, efallai y ceir cyfnod o syrthni, dryswch neu gysgu. Ar adegau, mae trawiadau tonig-clonig cyffredinol yn dilyn blas, aroglau neu synhwyriad arall rhyfedd, sef 'awra', sy'n tueddu i ddigwydd yn yr un ffordd cyn pob trawiad.

Trawiadau rhannol: Cyfeirir at y rhain weithiau fel trawiadau 'petit mal' (ond ni ddefnyddir y term hwn cymaint y dyddiau hyn). Dim ond ar ran o'r ymennydd y mae'r rhain yn effeithio. Mae newidiadau yn digwydd i'r ymwybyddiaeth ac ymddygiad, megis clecian y gwefusau, pigo ar ddillad, tynnu ystumiau a diffyg ymateb. Gall symptomau sydyn o ddicter, panig, iselder ysbryd a chyflyrau meddyliol eraill hefyd fod yn rhan o'r trawiadau hyn.

Gwneud Diagnosis o Epilepsi

EEG (Electro-enseffalograffeg)

Mae hwn yn mesur y gweithgaredd trydanol ar arwyneb yr ymennydd. Gosodir electrodau cofnodi ar groen y pen, am oddeutu 20 munud fel arfer, neu weithiau dros nos. Ar adegau, efallai y gofynnir i unigolyn aros yn effro dros nos a dod i'r ysbyty i gael cofnod EEG tra ei fod yn syrthio i gysgu (EEG 'digwsg'). Gall gwisgo'r electrodau EEG am 2 neu 3 diwrnod fod o fudd pe byddai angen cael cofnod yn ystod trawiad. Gellir cuddio'r gwifrau a gwneud cofnod ar ddyfais gofnodi fechan sydd ynghlwm wrth wregys.

ECG (Electrocardiograffeg)

Mae hwn yn cofnodi gweithgaredd trydanol a rhythm y galon. Gall newidiadau yn rhythm y galon weithiau sbarduno trawiadau sy'n debyg i epilepsi, ac o ganlyniad efallai y bydd angen diystyru problemau sy'n ymwneud â'r galon.

Sgan MRI (Delweddu Cyseiniant Magnetig)

Techneg yw hon ar gyfer sganio'r ymennydd sy'n cynnwys defnyddio maes magnetig i greu lluniau o'r ymennydd ar wahanol lefelau neu haenau. Pan fyddwch yn cael sgan MRI, mae angen i chi roi eich pen mewn lle cyfyng, sydd hefyd yn swnllyd, am oddeutu 20 munud a chadw mor llonydd â phosibl. Gallai hyn fod yn anodd i rai pobl sydd wedi cael anaf i'r ymennydd. Dan yr amgylchiadau hyn, efallai y rhoddir tawelydd iddynt, neu mewn achosion prin, anaesthetig, i helpu.

Rheoli epilepsi

Os ydych yn tueddu i gael trawiadau epileptig, efallai y gallwch adnabod yr 'arwyddion rhybuddio' fod trawiad am ddigwydd (e.e. awra), a chael amser i eistedd neu ddweud wrth rywun beth sy'n mynd i ddigwydd. Yna, efallai y gellir atal y trawiad rhag mynd yn gyffredinol, trwy ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau i leihau lefelau cyffroi. Nid oes yr un dull unigol dibynadwy o leihau amlder trawiadau na'u hatal rhag mynd yn rhai cyffredinol: mae gwahanol ddulliau yn gweithio i wahanol bobl. Mae'n bwysig edrych ar batrymau unigol trawiadau, ac yn enwedig ar unrhyw sbardunau megis blinder, straen, caffein a hyd yn oed ymlacio.

Gellir rhagnodi meddyginiaeth wrthgonfylsiwn i reoli trawiadau sy'n datblygu yn dilyn anaf i'r ymennydd. Rhoddir triniaeth gyffuriau i rai pobl ar gyfer epilepsi cyn iddynt hyd yn oed gael trawiad, yn dilyn anaf i'w hymennydd, er mwyn atal trawiadau rhan datblygu (proffylacsis).

Yr hyn y dylech ei wneud pe byddai rhywun yn cael trawiad epileptig

Yn ystod y trawiad:

  • Llaciwch unrhyw ddillad tynn sydd o amgylch y gwddf er mwyn iddo allu anadlu'n rhwydd
  • Peidiwch â rhoi unrhyw beth yn ei geg gan y bydd hyn yn debygol o achosi mwy o ddrwg na da
  • Gosodwch yr unigolyn ar ei ochr gyda rhywbeth meddal o dan ei ben. Peidiwch â symud yr unigolyn mewn unrhyw ffordd arall, oni bai ei fod yn gorwedd mewn man peryglus

Nid oes angen anfon rhywun sy'n cael trawiad i'r ysbyty fel arfer. Fodd bynnag, dylid ceisio cymorth meddygol os nad oes arwydd bod y trawiad am ddirwyn i ben ar ôl ychydig funudau, neu os yw'r unigolyn yn dioddef cyfres o drawiadau neu anaf corfforol.

Ar ôl y trawiad:

  • Peidiwch â rhoi unrhyw beth i'r unigolyn i'w fwyta na'i yfed hyd ei fod wedi gwella'n llwyr
  • Gadewch iddo gysgu os yw'n dymuno
  • Efallai y bydd yr unigolyn yn cael cur pen neu gyfnod o ddryswch, a allai barhau am oriau. Os yw hyn yn digwydd, dylid gadael i'r unigolyn eistedd neu orwedd yn dawel hyd y bydd hyn wedi gwella.

Mae pobl sy'n debygol o gael trawiadau weithiau yn cario cerdyn a ddosberthir gan Gymdeithas Epilepsi Prydain, neu nodyn sy'n dweud beth y dylid ei wneud pe byddai rhywun yn cael trawiad. Mae'n syniad da chwilio am gerdyn neu nodyn o'r fath gan y gallai roi cyfarwyddiadau defnyddiol i chi.

Epilepsi a gyrru

Os ydych wedi cael trawiad, waeth pa mor 'fychan', neu os ydych wedi cael diagnosis o epilepsi neu beidio, mae'n rhaid i chi hysbysu Grŵp Meddygol y Gyrwyr yn y DVLA (yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau). Bydd y DVLA, yn unol â'r drefn, yn cysylltu â'ch meddyg i gael adroddiad meddygol. Ar adegau, byddant yn gofyn i chi gael archwiliad gan un o'u cynghorwyr meddygol hwy.

Cysylltiadau Defnyddiol

Cymdeithas Epilepsi Prydain
New Anstey House, Gate Way Drive, Yeadon, Leeds, LS19 7XY.
Llinell Gymorth: 0808 800 5050
Gwefan: www.epilepsy.org.uk
E-bost: helpline@bea.org.uk

Mae'r gymdeithas hon yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau, gan gynnwys yswiriant, ynghyd â gwybodaeth ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn epilepsi. Mae ganddi rwydwaith o ganghennau lleol ledled y Deyrnas Unedig sy'n cefnogi pobl sydd ag epilepsi, eu teuluoedd a'u ffrindiau, a gofalwyr proffesiynol.

Y Gymdeithas Epilepsi Genedlaethol
Chesham Lane, Chalfont St. Peter, Buckinghamshire, SL9 0RJ.
Llinell Gymorth: 01494 601 400
Gwefan: www.epilepsynse.org.uk
Mae'r gymdeithas hon yn darparu gwybodaeth i bobl sydd ag epilepsi, gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, a'r cyhoedd. Mae'n ceisio codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o epilepsi a sicrhau gwelliannau o ran triniaethau a gwasanaethau.

DVLA
Grŵp Meddygol y Gyrwyr, DVLA, Abertawe, SA99 1TU
Ffôn: 0870 600 0301
Gwefan: www.direct.gov.uk (cliciwch ar 'Moduro' ac yna 'Rheolau meddygol ar gyfer pob gyrrwr')

Gwybodaeth Bellach

  • Tony Smith (gol.) (1999). Epilepsy. (Cyfres 'Family Doctor' Cymdeithas Feddygol Prydain).
  • Jolyon Oxley a Jay Smith (1991). The Epilepsy Reference Book.
  • Adrienne Richard a Joel Reiter (1995). Epilepsy: A New Approach.
  • Morigue Cornwall (2001). Driving After Brain Injury. Cyhoeddiad Headway.
  • Website sponsor:
  •  Website sponsor:
  •  One of the UK's leading providers of bespoke domiciliary care packages for adults and children.