You are here

Gwybodaeth am Headway / All about Headway

Mae Headway yma i helpu

Headway yw'r elusen a sefydlwyd i roi cymorth a chefnogaeth i bobl sy'n cael eu heffeithio gan anafiadau i'r ymennydd. Mae'n gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd:

Yn lleol

Mae rhwydwaith o Grwpiau a Changhennau lleol drwy'r D.U. gyfan yn cynnig ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys rhaglenni adferiad, cefnogaeth i ofalwyr, ailintegreiddio cymdeithasol, estyn allan i'r gymuned a gofal seibiant. Bydd y gwasanaethau yn amrywio, yn dibynnu ar anghenion ac adnoddau lleol.

Yn genedlaethol

Mae Headway D.U. yn darparu cefnogaeth i'r Grwpiau a'r Canghennau lleol, ac yn helpu i ddarparu gwasanaethau o safon uchel drwy arweiniad ar bolisïau, gweithdrefnau, safonau a hyfforddiant. Yn ychwanegol:

  • Rydym yn hyrwyddo dealltwriaeth o anafiadau i'r ymennydd a'u heffeithiau.
  • Mae Llinell Gymorth Headway y D.U. yn darparu gwybodaeth, yn rhoi cyngor ar ffynonellau cefnogaeth, yn dod o hyd i wasanaethau adfer yn lleol i chi ac yn cynnig clust i wrando ar y rhai sy'n wynebu problemau.
  • Rydym yn cyhoeddi amrywiaeth o lyfrynnau sy'n cynnwys gwybodaeth am agweddau ar anafiadau i'r ymennydd, a fydd o gymorth i'r rhai sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol ac i weithwyr proffesiynol, cyflogwyr ac aelodau'r cyhoedd.
  • Rydym yn lobïo i gael gwell cefnogaeth ac adnoddau ar gael drwy ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol statudol.
  • Rydym yn ymgyrchu dros fesurau a fydd yn lleihau nifer yr anafiadau i'r ymennydd sy'n digwydd.

See Also