You are here

Ynglŷn ag Anaf Trawmatig i’r Ymennydd (TBI) / About traumatic brain injury

Bob blwyddyn, bydd cymaint â miliwn o bobl sy'n mynd i ysbyty yn y D.U. wedi cael anaf

i'w pen. O'r rhain, mae 135,000 yn cael cadarnhad eu bod nhw wedi cael anaf trawmatig i'r ymennydd, ac maen nhw'n cael eu derbyn i'r ysbyty.

Y rhai sydd fwyaf mewn perygl yw pobl yn y grwp oedran 15 - 29, yn enwedig dynion.

Yr achosion mwyaf cyffredin o anafiadau trawmatig i'r ymennydd yw:

  • Damweiniau traffig ffordd
  • Damweiniau yn ystod gweithgareddau hamdden neu yn y gwaith
  • Ymosodiadau
  • Cwympiadau

Gall yr ymennydd gael ei niweidio gan bethau eraill fel strôc, gwaedlif neu haint.

Gall anaf i'r ymennydd achosi problemau symudedd, nam ar y synhwyrau, epilepsi ac anawsterau â lleferydd ac iaith. Gallai beri problemau â sgiliau meddwl hefyd, fel y cof a'r gallu i ganolbwyntio, a newidiadau mewn emosiynau ac ymddygiad. Efallai na fydd yr unigolyn sydd ag anaf i'r ymennydd yn ymwybodol sut mae eu hanaf wedi eu newid nhw.

Mae'n anodd iawn i deuluoedd ddygymod ag anafiadau fel y rhain. Fe allan nhw hefyd wynebu heriau ariannol sy'n deillio o golli gwaith, yn ogystal â'u cyfrifoldebau gofal eu hunain.

See Also