Ynglŷn â’r ymennydd / About the brain
Ffeithiau ynglŷn â'r ymennydd
- Mae eich ymennydd yn pwyso tua 3 phwys, neu ychydig dan 1.5 cilogram
- Mae ei ansawdd fel blomonj
- Mae'r ymennydd wedi ei gysylltu â madruddyn y cefn trwy goesyn yr ymennydd
- Mae'r cerebelwm wedi ei leoli y tu ôl i goesyn yr ymennydd
- Y cortecs cerebrol yw prif ran yr ymennydd. Mae'n cynnwys y llabedau blaen, y cortecs echdygol, y cortecs synhwyraidd a'r llabedau parwydol
- Mae'r ymennydd yn cynnwys oddeutu 100 biliwn o nerfgelloedd a hyd yn oed mwy o gelloedd cynhaliol, sy'n darparu maeth i'r nerfgelloedd.
Mae'r diagram isod yn dangos pa rannau o'ch ymennydd sy'n rheoli gwahanol weithgareddau.

Y LLABED FLAEN [FRONTAL LOBE] - swyddogaethau gweithredol, meddwl, cynllunio, trefnu a datrys problemau. Emosiynau a rheoli ymddygiad, personoliaeth
Y CORTECS ECHDYGOL [MOTOR CORTEX] - symudiad
Y CORTECS SYNHWYRAIDD [SENSORY CORTEX] - synwyriadau
Y LLABED BARWYDOL [PARIETAL LOBE] - canfyddiad, deall y byd, rhifyddeg, sillafu
LLABED Y GWEGIL [OCCIPITAL LOBE] -y golwg
LLABED YR ARLAIS [TEMPORAL LOBE] - y cof, dirnadaeth, iaith
Gall niwed i ran benodol effeithio ar weithgaredd y rhan honno. Er enghraifft, gall anaf i'ch llabed flaen effeithio ar eich personoliaeth.
Gwyddom hefyd fod ochr chwith eich ymennydd yn rheoli ochr dde eich corff. Felly, pe byddai rhywun wedi cael strôc, a effeithiodd ar ochr chwith eu hymennydd, y tebyg yw y byddai'n effeithio ar ochr dde eu corff. I'r rhan fwyaf ohonom, mae'r ochr chwith yn rheoli lleferydd, a'r ochr dde yn rheoli ein sgiliau artistig megis arlunio a cherddoriaeth.
Y Greuan a Choesyn yr Ymennydd
Amgylchynir yr ymennydd yn gyfan gwbl gan gragen galed, amddiffynnol, gron o asgwrn, sef y benglog neu'r greuan. Y peth pwysig i'w gofio ynglŷn â'r benglog yw bod nifer o wrymiau esgyrnog dan y tu blaen iddi. Pan ysgydwir meinwe feddal yr ymennydd, mae'r gwrymiau hyn, yn anffodus, yn rhwygo ac yn anafu ochr isaf blaen yr ymennydd.
Ar waelod y benglog, mae twll lle y mae'r rhan isaf o'r ymennydd neu goesyn yr ymennydd wedi ei gysylltu â madruddyn y cefn ac yna â'r system nerfol gyfan a gweddill y corff. Mae coesyn yr ymennydd yn rhywbeth tebyg i gebl telathrebu tew, gyda ffibrau nerfol dirifedi sy'n cludo negeseuon yn ôl ac ymlaen. Gwyddwn hefyd fod coesyn yr ymennydd yn rheoli gweithredoedd y corff megis bod yn effro, ymwybyddiaeth, blinder, curiad y galon a phwysedd gwaed. Credir bod niwed i'r man hwn yn achosi cyfergyd a cholli ymwybyddiaeth.
Ansawdd a Phibellau Gwaed
Mae ansawdd yr ymennydd yn rhywbeth tebyg i flomonj meddal, ond fe'i dalir ynghyd yn y benglog gan nifer o haenau o bilen a elwir y dura, y pia a'r arachnoid.
Rhwng pilenni'r pia a'r arachnoid mae'r gwagle is-arachnoid, lle y mae'r pibellau gwaed sy'n cyflenwi ac yn draenio'r ymennydd yn rhedeg. Fel unrhyw organ arall, mae'r ymennydd yn dibynnu ar waed o'r galon, ac mae'n cynnwys rhwydwaith o rydwelïau mawr, sy'n rhannu'n ganghennau llai a llai. Pan ysgydwir yr ymennydd yn ystod anaf i'r pen, mae'r pibellau hyn yn rhwygo ac yn gwaedu. Wrth i bobl heneiddio, mae'r pibellau gwaed yn mynd yn fwy brau ac maent yn fwy tebygol o rwygo os cânt eu hysgwyd. Mae'r gwaedu hwn yn arwain at gasgliad o glotiau gwaed sy'n rhoi pwysau ar feinwe frau'r ymennydd ac yn ei hanafu.
Mae'r ymennydd yn ei sach pilennog yn arnofio mewn môr o hylif cerebrosbinol sy'n llenwi'r holl fylchau o amgylch yr ymennydd ac sy'n ei amddiffyn a'i glustogi rywfaint. Yn union y tu ôl i goesyn yr ymennydd mae lwmp crwm o feinwe a elwir y cerebelwm. Mae'r rhan hon yn rheoli holl gydsymudiadau echdygol manwl unigolyn.
Y Cortecs Cerebrol

Y CORTECS CEREBROL [CEREBRAL CORTEX] - prif ran yr ymennydd; mae'n rheoli prosesau meddwl (megis cofio a dysgu) a gweithrediadau echdygol (megis cerdded)
HYLIF CEREBROSBINOL [CEREBROSPINAL FLUID] - hylif clir sy'n amgylchynu'r ymennydd. Mae hefyd yn llenwi gwagleoedd agored yn yr ymennydd er mwyn rhoi maeth iddo a'i 'glustogi'
Y GREUAN [CRANIUM] - esgyrn y benglog sy'n amgáu'r ymennydd yn gyfan gwbl er mwyn ei amddiffyn
MADRUDDYN Y CEFN [SPINAL CORD] - mae'n cysylltu'r ymennydd â'r corff ac yn cludo negeseuon yn ôl ac ymlaen rhyngddynt
Y CEREBELWM [CEREBELLUM] - y rhan o'r ymennydd sy'n rheoli cydsymudiad y cyhyrau a chydbwysedd
COESYN YR YMENNYDD [BRAIN STEM] - mae hwn yn rheoli ymwybyddiaeth ac anadlu
Y cortecs cerebrol yw enw prif ran yr ymennydd, ac mae siâp cneuen Ffrengig grychiog fawr arno. Fe'i rhennir yn ddau hanner a gysylltir gan bont yn y canol. Yr hemisffer cerebrol de a'r hemisffer cerebrol chwith yw enw'r ddau hanner hyn. Gwyddwn fod yr ochr dde yn rheoli ochr chwith ein corff a bod yr ochr chwith yn rheoli ochr dde ein corff.
Gallai niwed i'r ochr dde yn unig effeithio ar symudiad yn y fraich a'r goes chwith neu'r clyw yn y glust chwith. Ceir tystiolaeth hefyd sy'n dangos bod yr hemisffer chwith, i'r rhan fwyaf o bobl, yn cynnwys y canolfannau iaith sy'n ymwneud â lleferydd, tra bod yr hemisffer de yn tueddu i reoli sgiliau anieithyddol a gofodol megis gallu arluniol neu gerddorol.
Pe byddai unigolyn yn cael anafiadau i ochr chwith yr ymennydd yn unig, er enghraifft, trwy gael strôc, mae'n debygol y byddai hynny'n effeithio ar y lleferydd, yn ogystal â'r gallu i symud ochr dde'r corff.
Mae strociau yn tueddu i effeithio ar ran benodol o'r ymennydd, ond mae anaf i'r pen, yn dilyn damwain ffordd, yn achosi niwed mwy cyffredinol fel arfer.
Nerfgelloedd
Mae'r ymennydd yn cynnwys biliynau o nerfgelloedd microsgopig. Dan ficrosgop pwerus, mae'r celloedd hyn yn edrych fel dotiau bychain, gyda rhwydwaith o deimlyddion sy'n debyg i flew (acsonau a dendridau). Maent yn ymgysylltu â'i gilydd trwy drosglwyddo ysgogiadau trydanol a chemegol rhwng y teimlyddion hyn. Mae patrymau tra chymhleth o ymgysylltiad, neu lwybrau, yn cynyddu wrth i'r ymennydd ddatblygu trwy gydol plentyndod. Mae effaith anaf i'r pen ar y sylwedd brau hwn yn debyg i'r hyn a geir wrth ysgwyd plât o flomonj yn egnïol - mae'n torri ac yn rhwygo, gan darfu ar y llwybrau ymgysylltiol hynny.
Yn ogystal â rhannu'n hemisffer chwith a hemisffer de, mae'r cortecs cerebrol yn rhannu ymhellach yn nifer o rannau a elwir llabedau.
Y rhan y tu ôl i'r talcen yw'r llabed flaen, ac mae'n chwarae rhan fawr mewn gweithgareddau deallusol, megis cynllunio a threfnu, yn ogystal ag ymwneud â phersonoliaeth a rheoli'r emosiynau ac ymddygiad.
Yn union y tu cefn ac o dan y llabedau blaen, lleolir llabedau'r arlais, yn swatio y tu ôl i'r clustiau. Yn y rhan hon y cedwir y rhan fwyaf o atgofion, a'r gallu i ddeall pethau a siarad.
Yng nghefn yr ymennydd uwchben y clustiau, y lleolir y llabedau parwydol ac mae'r rhain yn chwarae rhan bwysig yn ein gallu i ddeall cydberthynas ofodol ac i ddarllen ac ysgrifennu. Rhwng y llabed flaen a'r llabed barwydol, mae rhannau sy'n rheoli symudiad a synhwyriad.
Yn union yng nghefn y pen, lleolir llabedau'r gwegil, sy'n gyfrifol am y golwg. Gall anaf i'r rhan hon achosi dallineb rhannol neu lwyr ddallineb.
Yn guddiedig yng nghanol y cortecs cerebrol hwn, sydd fel cneuen Ffrengig, mae nifer o ganolfannau nerfol bychain, gwyn, a elwir gyda'i gilydd yn ddienseffalon. Yn y rhan hon y gorwedd yr hypothalmws bychan, maint pysen, sy'n rheoli archwaeth, cynhyrfiad rhywiol, syched a thymheredd, ynghyd â rhai agweddau ar gofio. Yn agos i'r rhan hon, mae cyfres bwysig arall o gnewyll a elwir y system limbig. Gall anaf i'r rhan hon fod yn hynod andwyol i'r emosiynau, ac achosi hwyliau'r unigolyn i newid yn ddramatig a sydyn.